Amdanom Ni

Fframwaith Adrannol

Beth yw’r Fframwaith?

Y Fframwaith Adrannol yw’r ddogfen lefel uchel sy’n cyflwyno’r modd y caiff  yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ei threfnu a’i rheoli.

Mae’n darparu`r fframwaith ar gyfer y sefydliad cydlynol a syml y mae angen i ni fod er mwyn i ni gyrraedd ein nod o ddarparu cyfiawnder cymdeithasol a lleihau tlodi ymysg ein cwsmeriaid.

Mae angen trefniadau llywodraethu effeithiol ar DWP i sicrhau y caiff ein busnes ei gynnal yn gymwys, yn ddidwyll a gan roi sylw dyledus i fuddion ein holl randdeiliaid.

Mae’r trefniadau llywodraethu a nodir yn y Fframwaith yn cyflwyno’r eglurder diben, yr atebolrwydd a’r didwylledd wrth wneud penderfyniadau y mae eu hangen i symbylu’r gwaith o gyflawni’n llwyddiannus y canlyniadau a bennir gan Weinidogion ac a nodir yn yr Egwyddorion Diwygio Lles, ein Cynllun Busnes 2008-2011 tair blynedd  a’r Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus.

Mae’r fersiwn ddiweddaraf hon o’r Fframwaith yn ganllaw ar ein trefniadau llywodraethu, ein strategaethau, ein polisïau a’n trefniadau gweithredol. Mae`n nodi atebolrwydd Gweinidogion, Yr Ysgrifennydd Parhaol ac uwch reolwyr yn ffurfiol. Mae hefyd yn disgrifio’r trefniadau lefel uchel cysylltiedig sydd ar waith yn yr Adran ar gyfer gwneud penderfyniadau.

Mae’r Fframwaith yn cynnwys:

Mae’r fersiwn hwn o’r Fframwaith yn disgrifio’r adran ym mis Tachwedd 2008. Mae’n disodli’r ddogfen a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2005.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.