Y Lwfans Tai Lleol – cyflwyniad i landlordiaid
Mae'r Lwfans Tai Lleol yn ffordd newydd o gyfrifo Budd-dal Tai i denantiaid sy'n rhentu llety gan landlord preifat. Caiff ei gyflwyno yn genedlaethol o 7 Ebrill 2008.
Mae'r Lwfans yn effeithio ar unrhyw landlord sy'n ffurfio cytundeb tenantiaeth preifat heb ei reoleiddio gydag unigolyn sy'n cael Budd-dal Tai. Mae 'heb ei reoleiddio' yn golygu tenantiaeth a ffurfiwyd ers 15 Ionawr 1989 yng Nghymru a Lloegr a 2 Ionawr 1989 yn yr Alban.
Nid yw'r Lwfans yn disodli Budd-dal Tai. Bydd yn berthnasol i denantiaid sy'n gwneud ceisiadau newydd neu'n newid cyfeiriad ar neu ar ôl 7 Ebrill 2008, felly efallai na fydd yn effeithio ar eich tenantiaid presennol ar unwaith.
Nid yw swm y Lwfans a delir i denant yn uniongyrchol berthnasol i'r rhent rydych yn ei godi, felly gallai'r budd-dal y mae eich tenantiaid yn ei gael fod yn uwch neu'n is na'r rhent cytundebol. Caiff swm y Lwfans y mae tenantiaid yn ei gael ei adolygu'n flynyddol.
Sut y caiff y Lwfans ei dalu
Y prif newid i landlordiaid yw y caiff taliadau'r Lwfans eu gwneud yn uniongyrchol i'r tenant sy'n gyfrifol am dalu'r rhent eu hunain fel arfer.
Mae awdurdodau lleol wedi datblygu polisïau diogelu i helpu'r rhai na allant neu sy'n anhebygol o dalu eu rhent eu hunain. Caiff y rhain eu seilio ar yr amgylchiadau a gyflwynwyd iddynt gan landlordiaid, tenantiaid a'u cynrychiolwyr.
Gall awdurdodau lleol ystyried talu'r landlord yn uniongyrchol lle bydd tystiolaeth i awgrymu bod y tenant yn anhebygol o dalu eu rhent ac y byddai gwneud taliadau uniongyrchol o fudd i'r tenant.
Pan fydd ôl-ddyledion budd-daliadau wedi cyrraedd 8 wythnos, bydd yr awdurdod lleol yn trefnu gwneud taliadau yn uniongyrchol i'r landlord heblaw na fyddai hyn o fudd i'r tenant. Fodd bynnag, anogir landlordiaid i beidio ag aros tan y cyrhaeddir y cyfnod 8 wythnos cyn cysylltu â'r awdurdod lleol.
Rhagor o wybodaeth
- Darllenwch crynodeb cwestiwn ac ateb i gael rhagor o fanylion am sut y bydd y Lwfans Tai Lleol yn effeithio ar landlordiaid.