Tlodi plant

Tlodi plant

Mae’r Llywodraeth yn ymrwymedig i haneru tlodi plant erbyn 2010 a’i ddileu erbyn 2020. Mae’r tudalennau hyn yn esbonio yr hyn sydd angen ei wneud i gyrraedd y targedau hyn. Gallwch ddarllen ein Strategaeth Tlodi Plant ac adroddiadau a thystiolaeth allweddol eraill a chanfod ble y gellir cael mwy o wybodaeth.

Dod â thlodi ymhlith plant i ben: busnes pawb

Mae "Dod â thlodi ymhlith plant: busnes pawb " yn amlinellu’r camau nesaf, gan gynnwys y mesurau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2008, a fydd yn gwneud cynnydd sylweddol wrth haneru tlodi ymhlith plant erbyn 2010. Mae’r ddogfen hefyd yn amlinellu gweledigaeth y Llywodraeth i ymgyrchu o’r newydd dros dlodi ymhlith plant ar gyfer y degawd nesaf, gan gynnwys nifer meysydd gwaith a dulliau pellach a bydd y Llywodraeth yn cynnal rhaglen beilot a fydd yn datblygu’r strategaeth ar gyfer 2020.

Uned Tlodi Ymhlith Plant ar y Cyd

Ar 29 Hydref 2007 cyhoeddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd (DCSF) creadigaeth yr Uned Tlodi Ymhlith Plant ar y Cyd. Mae’r Uned yn dod â swyddogion polisi a dadansoddwyr tlodi plant at ei gilydd yn y ddwy adran, ynghyd â Neera Sharma sydd ar secondiad o Barnados, i gymryd stategaeth tlodi ymhlith plant y Llywodraeth i’r cam nesaf yn ei datblygiad.

Rôl yr Uned yw:

Y cefndir

Rhwng canol a diwedd y 1990au dioddefodd y Deyrnas Unedig lefelau o dlodi plant uwch na bron pob gwlad ddiwydiannol arall. Dros gyfnod o 20 mlynedd, roedd cyfran y plant mewn teuluoedd incwm isel cymharhol wedi mwy na dyblu, roedd un o bob pump o deuluoedd lle nad oedd unrhyw aelod yn gweithio ac roedd un o bob tri phlentyn yn byw mewn tlodi. Yn 1999 addawodd y Prif Weinidog ddileu tlodi plant yn y DU o fewn cenhedlaeth. Y garreg filltir allweddol nesaf yw ymrwymiad y Llywodraeth i haneru tlodi plant erbyn 2010.

Gwrthdroi’r duedd

Rydym wedi llwyddo i wrthdroi'r tuedd hirdymor o weld cynnydd mewn tlodi ymhlith plant. Ers 1997 rydym wedi lleihau nifer y plant sy’n byw mewn incwm sy’n gymharol isel gan 600,000.

Ein Strategaeth Tlodi Plant

Adroddiadau a thystiolaeth eraill

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.