Cysylltu â ni

Cwynion ac apeliadau

Mae`r Adran Gwaith a Phensiynau a`i busnesau wedi ymroi i ddarparu gwasanaethau o safon. Os ydych yn anfodlon, hoffem glywed eich cwyn.

Cwyno am wasanaeth neu sut y deliwyd â`ch cais

Gofynnwn i chi gwyno yn gyntaf wrth reolwr y swyddfa a ddeliodd â`ch cais. Os nad yw`r manylion cyswllt gennych eisoes, gallwch ddod o hyd iddynt yn chwilio am swyddfa leol.

Os nad ydych yn gwybod gyda pha un o fusnesau`r Adran yr ydych wedi bod yn delio, edrychwch yn ein Cysylltiadau A-Y am y budd-dal neu`r hawl yr ydych yn gwneud cais amdano. Bydd hwn yn rhoi gwybod i chi pa fusnes sy`n delio â`r budd-dal neu`r hawl hwnnw.

Mae gan bob un o`n busnesau ei weithdrefn gwyno ei hun ar gyfer ei gwsmeriaid. Dilynwch y cysylltiadau i ddarllen amdanynt:

Pwysig
Ni allwn ddelio â chwyn fel apêl yn erbyn penderfyniad am fudd-dal. I apelio, darllenwch ‘Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir` isod.

Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir

Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei esbonio i chi. Os ydych yn dal i feddwl ei fod yn anghywir ar ôl i ni ei esbonio i chi, fe wnawn ei ystyried eto.

Ar gyfer rhai penderfyniadau, efallai y bydd modd i chi apelio hefyd i dribiwnlys annibynnol a allai newid y penderfyniad os bydd yn cytuno ei fod yn anghywir.

Mae terfynau amser o ran gofyn i ni ystyried penderfyniadau eto ac o ran apelio. Rydym yn sôn am y terfynau amser hyn ac am apelio yn ein llyfryn GL24 Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir (280KB)PDF

Mae`r Gwasanaeth Tribiwnlys yn sefydliad annibynnol sy`n trefnu ac yn gwrando ar apeliadau yn erbyn penderfyniadau am:

Am ragor o wybodaeth, ewch i  wefan y Gwasanaeth Tribiwnlys.

Cwyno am yr Adran

Os yw`ch cwyn yn ymwneud â gwaith yr Adran yn gyffredinol, ysgrifennwch at:

DWP Correspondence Unit
Room 539
The Adelphi
1-11 John Adam Street
Llundain
WC2N 6HT

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.