Cysylltiadau cyflym
E-wasanaeth yr Uned Adfer Iawndal ![]()
Cysylltwch â'r Uned Adfer Iawndal
Am yr Uned Adfer Iawndal
Diweddarwyd ddiwethaf fis Awst 2005
Mae`r Uned Adfer Iawndal (UAI) yn gweithio gyda chwmnïau yswiriant, cyfreithwyr a chwsmeriaid DWP, i adfer:
- symiau o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a dalwyd yn sgil damwain, anaf neu afiechyd, lle talwyd iawndal ar ei gyfer. Yr enw ar hyn yw'r Cynllun Adfer Iawndal.
- costau ysbytai'r GIG ar gyfer trin anafiadau o ddamweiniau ffordd. Yr enw ar hyn yw Adfer Costau'r GIG.
Mae'r tudalennau hyn yn cynnig gwybodaeth i gwmnïau yswiriant, cyfreithwyr a chwsmeriaid DWP am y Cynllun Adfer Iawndal.
Gwybodaeth i Gwsmeriaid DWP
Os ydych wedi cael damwain, anaf neu afiechyd yr oedd rhywun arall yn gyfrifol amdano, efallai eich bod wedi hawlio, neu yn ystyried hawlio iawndal.
Os ydych yn derbyn budd-dal nawdd cymdeithasol, gallai effeithio ar eich iawndal.
Y Cynllun Adfer Iawndal - Sut mae'n gweithio
Pan fydd rhywun yn hawlio iawndal, mae'n rhaid i'r iawndalwr roi gwybod i'r Uned Adfer Iawndal. Yr iawndalwr yw'r person neu'r sefydliad sy'n debygol o dalu'r iawndal.
Os ydych wedi hawlio, neu wedi derbyn iawndal ac wedi derbyn budd-dal nawdd cymdeithasol yn sgil eich damwain, anaf neu afiechyd, mae'n rhaid i'r iawndalwr dalu swm y budd-dal nawdd cymdeithasol yr ydych wedi ei dderbyn yn sgil eich damwain, anaf neu afiechyd yn ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
- Mae`r swm y mae'n rhaid i'r iawndalwr ei dalu yn gyfartal i gyfanswm y budd-dal a delir i chi o'r diwrnod ar ôl y ddamwain neu'r anaf hyd at y diwrnod pan delir taliad olaf yr iawndal, neu am hyd at 5 mlynedd - pa un bynnag sydd gyntaf.
- Os ydych wedi hawlio iawndal yn sgil afiechyd, cyfrifir y swm y mae'n rhaid i'r iawndalwr ei dalu o'r diwrnod yr hawlioch y budd-dal yn sgil yr afiechyd gyntaf.
- Gall yr iawndalwr leihau'ch iawndal dan rai amgylchiadau os ydych wedi derbyn budd-dal i ddiwallu'r un angen. Ewch i pa fudd-daliadau sy'n cyfri.
Pa fudd-daliadau sy'n cyfri
Gall yr iawndalwr leihau'ch iawndal ar gyfer:
- colli enillion yn y gorffennol os ydych wedi derbyn un o'r budd-daliadau hyn i ddiwallu'r un angen:
- Lwfans Gweithio i'r Anabl
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Pensiwn Analluedd
- Lwfans Analluedd
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Enillion Is
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Budd-dal Salwch
- Tâl Salwch Statudol a dalwyd cyn 6 Ebrill 1994
- Atodiad i`r Anghyflogadwy
- Budd-dal Diweithdra.
- cost gofal yn y gorffennol os ydych yn derbyn un o'r canlynol i ddiwallu'r un angen:
- Lwfans Gweini
- Lwfans Byw i'r Anabl (elfen ofal)
- Cynnydd mewn Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer Lwfans Gweini Cyson neu Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
- colli symudedd yn y gorffennol os ydych wedi derbyn un o'r budd-daliadau hyn i ddiwallu'r un angen:
- Lwfans Byw i'r Anabl (elfen symudedd)
- Lwfans Symudedd
Ni ellir lleihau iawndal am resymau eraill, fel poen a dioddef, o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae`n rhaid i chi roi gwybod i'r swyddfa sy'n talu'ch budd-dal cyn gynted ag y cewch eich iawndal os ydych yn derbyn:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Gwaith
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Budd-dal Tai
- Lwfans Tai Lleol
- Budd-dal Treth Cyngor
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn Anabledd Rhyfel
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Bensiwn Rhyfel gŵr Gweddw
Os cewch iawndal
Bydd yr Uned Adfer Iawndal yn anfon tystysgrif budd-daliadau adferadwy at yr iawndalwr a chopi o'r dystysgrif atoch chi neu'ch cynrychiolydd.
Mae'r dystysgrif yn dangos faint o fudd-dal, os o gwbl, y mae'n rhaid i'r iawndalwr ei dalu'n ôl i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Os nad ydych yn cytuno â'r wybodaeth ar y dystysgrif, mae hawl gennych i ofyn am adolygiad. Mae gwybodaeth ar y dystysgrif sy'n rhoi gwybod i chi beth i'w wneud.
Os nad ydych yn cytuno â phenderfyniad i leihau'ch iawndal, efallai y gallwch apelio. Gallwch wneud hyn dim ond ar ôl i'r iawndalwr leihau'ch iawndal i ad-dalu budd-daliadau i'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Mae`n rhaid i chi apelio cyn pen mis i'r dyddiad y mae'r iawndalwr yn talu'r taliad olaf o fudd-dal i'r Uned Adfer Iawndal.
Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth am Beth i'w wneud os ydych o'r farn bod Tystysgrif y Cynllun Adfer Iawndal yn anghywir.
Help a Chyngor
Gallwch gysylltu â ni os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y Cynllun Adfer Iawndal. Neu darllenwch fwy am Iawndaliadau a budd-daliadau nawdd cymdeithasol .
Am ragor o wybodaeth am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, ewch i'r tudalennau budd-daliadau neu cysylltwch â`ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol neu'ch Canolfan Byd Gwaith leol. Defnyddiwch y tudalennau hyn i ddarganfod pwy sy'n delio â budd-dal neu hawl.