Gwasanaethau a
budd-daliadau

Cytundebau nawdd cymdeithasol rhwng y Deyrnas Unedig (DU) a gwledydd eraill

Hysbysiad pwysig

Ar hyn o bryd, rydym yn diweddaru’r holl daflenni tramor ar y wefan hon. Oherwydd hyn, efallai na fydd rhywfaint o’r wybodaeth a welwch yma’n gwbl gyfoes.

Sylwer y cyflwynwyd system newydd o fudd-daliadau profedigaeth i ddynion a merched ym mis Ebrill 2001, yn disodli ystod o fudd-daliadau gwraig weddw. Os ydych yn byw dramor ac yn ystyried bod y budd-daliadau hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â:

The Pension Service
International Pension Centre
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle-upon-Tyne
NE98 1BA

Ffôn yn y DU: 0191 218 7777
Ffacs yn y DU: 0191 218 3836

E-bost: tvp.internationalqueries@thepensionservice.gsi.gov.uk

Y tu allan i’r DU, deialwch y cod rhyngwladol, ac yna:
ffôn: 44 191 218 7777
ffacs: 44 191 218 3836

I gael rhagolwg pensiwn, ffôn yn y DU:
0191 218 7585

Y tu allan i’r DU, deialwch y cod rhyngwladol, ac yna ffoniwch:
44 191 218 7585

brig y dudalen

Beth yw cytundeb nawdd cymdeithasol?

Os ydych yn mynd i wlad arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu i wlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â’r Deyrnas Unedig (DU), efallai y gallwch dderbyn budd-dal na fyddech yn ei dderbyn dramor fel rheol. Neu efallai y gallwch dderbyn budd-dal y mae’r wlad honno’n ei ddarparu.

Os ydych yn dod o un o’r gwledydd hyn, efallai y gallwch dderbyn budd-dal o’r wlad honno neu fudd-dal y mae’r DU yn ei ddarparu.

Edrychwch drwy’r rhestr isod i weld a oes gan y wlad rydych yn mynd iddi neu’n dod ohoni gytundeb nawdd cymdeithasol â’r DU. Gellir cael gwybodaeth am y cytundeb drwy lawrlwytho’r daflen.

Mae`r taflenni hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau meddygol.

brig y dudalen

Rhestr A-Y o gytundebau nawdd cymdeithasol

brig y dudalen

Gwybodaeth pensiynau ar gyfer gweithwyr Ewropeaidd

Mae gwefan EULisses yn darparu gwybodaeth ar gyfer pobl sydd wedi gweithio mewn gwahanol wledydd o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)

E Ymwelwch â gwefan Eulisses

brig y dudalen

Diffiniadau

Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae rheolau nawdd cymdeithasol yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn berthnasol i wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).
Gwledydd yr AEE yw:
yr Almaen, Awstria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig (DU), yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Groeg, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Gwlad yr Iâ, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Portiwgal, Sbaen, Slofacia, Slofenia a Sweden.

Gibraltar – Mae’r DU yn cymhwyso rheolau nawdd cymdeithasol yr UE yn Gibraltar fel pe bai’n wlad arall yn yr AEE.

Y Swistir – Mae rheolau nawdd cymdeithasol yr UE yn berthnasol i’r Swistir i raddau helaeth.

Mae’r DU yn golygu Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.

Mae Prydain Fawr yn golygu Cymru, Lloegr a’r Alban.

Cofiwch mai dim ond arweiniad cyffredinol i fudd-daliadau a chynlluniau yw’r wefan hon, ac nid yw’n ddatganiad llawn ac awdurdodol o’r gyfraith. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, gallai newidiadau yn y gyfraith wneud y wefan yn llai cywir gydag amser.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.