Ymdopi ar incwm isel
Dysgwch fwy am fudd-daliadau a gwasanaethau penodol
Mae gan lawer o bobl sydd ar incwm isel ac sy`n talu treth cyngor hawl i Fudd-dal Treth Cyngor, ond nid ydynt yn ei hawlio ar hyn o bryd. Dysgwch fwy am Fudd-dal Treth Cyngor. (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov).
- Os oes gennych incwm isel ac os yw unrhyw un o`r canlynol yn berthnasol i chi: rydych yn rhiant unigol, rydych yn sâl neu`n anabl, rydych yn 60 oed neu`n hŷn, rydych yn gofalu am rwyun sy`n sâl neu`n anabl, rydych wedi`ch cofrestru`n ddall:
ewch i Cymhorthdal Incwm (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith). - Os ydych yn talu rhent ac ar incwm isel:
ewch i Budd-dal Tai. (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov). - Os ydych yn talu treth cyngor ac ar incwm isel:
ewch i Budd-dal Treth Cyngor. (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov). - Os oes gennych incwm isel ac os oes angen help â chostau iechyd arnoch:
ewch i Help â chostau iechyd. - Os ydych yn derbyn budd-dal neu gredyd treth incwm isel ac angen help i dalu am angladd:
ewch i Taliad Angladd. - Os ydych chi neu`ch partner yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, ac os oes gennych blentyn dan 5 oed neu os ydych yn anabl neu`n 60 oed neu`n hŷn:
ewch i Taliad Tywydd Oer. - Os ydych ar fin gadael llety preswyl neu sefydliadol, os oes angen help arnoch i aros yn eich cartref eich hun, os ydych wedi bod yn byw`n ansefydlog neu os ydych yn wynebu pwysau eithriadol:
ewch i Grantiau Gofal Cymunedol.
(Ystyr llety preswyl neu sefydliadol yw rhywle lle cewch lawer o ofal neu oruchwyliaeth, fel ysbyty neu gartrefi gofal preswyl a chartrefi nyrsio preswyl.) - Os oes arnoch angen pethau ar gyfer eich cartref neu bethau eraill na allwch dalu amdanynt ar un tro, ac os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm:
ewch i Benthyciadau Trefnu. - Os oes angen help ar unwaith arnoch gyda chostau byw bob dydd neu gyda rhywbeth arall mewn argyfwng:
ewch i Benthyciadau Argyfwng y Gronfa Gymdeithasol. - Os ydych chi, neu`ch partner os oes un gennych, yn gweithio ond eich bod ar incwm isel, mae`n bosibl y gallwch dderbyn Credyd Treth Gwaith. Am wybodaeth, ewch i:
wefan Cyllid a Thollau EM. - Os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc, mae`n bosibl y gallwch dderbyn Credyd Treth Plant. Am wybodaeth, ewch i:
wefan Cyllid a Thollau EM.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.