Yn yr ysbyty
Dysgwch fwy am fudd-daliadau a gwasanaethau penodol
- Os oeddech yn gweithio i gyflogwr ac yn ennill digon i fod yn berthnasol at ddibenion Yswiriant Gwladol (YG) (mae hyn yn llai na`r swm pan fo`n rhaid i chi ddechrau talu cyfraniadau YG):
ewch i Tâl Salwch Statudol. - Os nad oeddech yn gweithio pan ddechreuodd eich salwch neu anabledd, roeddech yn hunangyflogedig, rydych yn gweithio i gyflogwr ond ni allwch gael Tal Salwch Statudol (SSP), neu os yw eich SSP wedi dod i ben, ewch i Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (bydd y cyswllt hwn yn eich cyfeirio at wefan Directgov)
- Os ydych chi neu rywun yn eich teulu am weld a gaiff arhosiad yn yr ysbyty effaith ar fudd-daliadau rydych eisoes yn eu hawlio:
dewch o hyd i enw`r budd-dal neu`r budd-daliadau yn y rhestr A i Y. - Os oes arnoch chi neu rywun yn eich teulu angen help â chost cludiant cyhoeddus neu gost petrol i deithio i`r ysbyty neu oddi yno ar gyfer triniaeth y GIG:
ewch i Costau teithio i`r ysbyty ac oddi yno (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith).
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.