Gwasanaethau a
budd-daliadau

Deddf Pensiynau 2004

Cafodd Deddf Pensiynau 2004, sy’n galluogi sawl un o’r polisïau a amlinellir yn yr adran hon, Gydsyniad Brenhinol ar 18 Tachwedd 2004, ar ôl cyhoeddi’r Mesur Pensiynau, Papur Gwyrdd y Llywodraeth o’r enw `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad` ym mis Rhagfyr 2002 a `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol` ym mis Mehefin 2003.

brig y dudalen

Cefndir

Deddf 1995 ac Adroddiad Goode

Pasiwyd y Ddeddf Pensiynau bwysig ddiwethaf ym Mhrydain Fawr ym 1995, ac ysbrydolwyd y Ddeddf, i raddau helaeth, gan Adroddiad Goode. O dan y teitl Diwygio`r Gyfraith Pensiynau – Adroddiad Pwyllgor Adolygu`r Gyfraith Pensiynau – fe’i cyhoeddwyd ym mis Medi 1993, ac roedd yn ganlyniad sefydlu pwyllgor annibynnol, y gofynnodd y Llywodraeth iddo adolygu’r fframwaith cyfreithiau a rheoliadau yr oedd cynlluniau pensiwn galwedigaethol yn gweithredu o’u mewn. Ystyriodd fuddiannau: aelodau, pensiynwyr a chyflogwyr.

1997-2000

Daeth prif ddarpariaethau Deddf 1995 i rym ym 1997, ychydig cyn Etholiad Cyffredinol y flwyddyn honno. Yr her ddybryd i’r Llywodraeth newydd oedd tlodi ymysg pensiynwyr. Felly, cyflwynodd y Gwarant Lleiafswm Incwm, y Credyd Pensiwn a chodiadau uwchlaw chwyddiant ym Mhensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Her arall oedd helpu pensiynwyr y dyfodol i ddarparu ar gyfer eu hymddeoliad. Ar adeg Papur Gwyrdd 1998, Contract newydd ar gyfer lles: partneriaeth mewn pensiynau, roedd incwm pensiynwyr mwy cefnog wedi bod yn cynyddu’n sylweddol oherwydd bod Cynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar Sail Enillion (SERPS) yn aeddfedu ac yn sgil twf pensiynau galwedigaethol. Ond roedd hefyd yn amlwg nad oedd rhai pobl yn cynilo digon neu’n gweithio’n ddigon hir, yn enwedig yng ngoleuni cynnydd mewn hyd oes.

Felly, i ategu diwygiadau’r Llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi ymysg pensiynwyr, cyflwynodd Papur Gwyrdd 1998 ddiwygiadau hefyd, a roddwyd ar waith drwy Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 a Deddf Cynhaliaeth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol 2000, fel disodli SERPS â’r pensiwn newydd, Ail Bensiwn y Wladwriaeth, er mwyn cynnig pensiynau mwy hael i bobl ar incwm is a chymedrig, llawer o ofalwyr â phobl ag anableddau, a chyflwyno pensiynau cyfranddeiliaid i gynnig cyfrwng diogel, syml a hyblyg i gynilo ar ôl ymddeol.

Adroddiad Myners

Ym mis Mawrth 2001, ar ôl cyhoeddi adroddiad Syr Paul Myners, `Buddsoddi Sefydliadol yn y Deyrnas Unedig: adolygiad`, cyhoeddodd y Llywodraeth gynigion i ddisodli’r gofyniad isafswm cyllid â dull cynllun-benodol (sydd angen deddfwriaeth gynradd); a diystyru (bryd hynny) cronfa derfynu ac yswiriant ansolfedd.

Symlrwydd, diogelwch a dewis: Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad

Yn ystod Gwanwyn 2002 gofynnodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Nawdd Cymdeithasol bryd hynny i Alan Pickering edrych ar sut y gellid symleiddio’r modd y cawsai cynlluniau pensiwn galwedigaethol eu gweinyddu. Comisiynwyd Ron Sandler gan Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol ar y cyd i adolygu cynilion adwerthu yn ystod yr un cyfnod. Yn 2002, cynhaliwyd adolygiad pum mlynedd o’r Awdurdod Rheoleiddio Pensiynau Galwedigaethol (Opra) ac astudiaeth Gwerth am Arian gan NAO i’r modd roedd Opra yn gweithio. Dangosodd canlyniadau’r holl adolygiadau unigol hyn fod prif themâu’n dod i’r amlwg ar gyfer diwygio pensiynau.

Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol

Mewn ymateb i’r ymgynghoriad dilynol, ym mis Mehefin 2003 cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau `Gweithio a chynilo ar gyfer ymddeoliad: Gweithredu ar bensiynau galwedigaethol` [Gorch 5835], a oedd yn canolbwyntio fwyfwy ar yr angen i ddiogelu aelodau gael cymaint o sylw â’r themâu eraill. Argoelodd ddeddfwriaeth sylfaenol ar draws y meysydd yr ymgynghorwyd arnynt, gan gynnwys Cronfa Diogelu Pensiynau i dalu iawndaliad i aelodau cynlluniau budd a ddiffinnir a chynlluniau cymysg yr aeth eu cyflogwyr yn fethdalwyr a chan adael y cynllun pensiwn yn methu diwallu’i ymrwymiadau. Mabwysiadwyd y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Weithgareddau a Goruchwylio Sefydliadau o ran Darpariaeth Ymddeoliad Galwedigaethol ym mis Medi 2003 i’w gweithredu erbyn mis Medi 2005.

Symlrwydd, diogelwch a dewis: Dewisiadau gwybodus ar gyfer gweithio a chynilo

Ym mis Chwefror 2004, aeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau â pholisi ehangach ar gynllunio ymddeol ariannol ymlaen yn `Symlrwydd, diogelwch a dewis: Dewisiadau gwybodus ar gyfer gweithio a chynilo` [Gorch 6111].

Mae’r gwahanol ddatblygiadau hyn wedi dod ynghyd yn y Mesur Pensiynau hwn.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.