Dechrau yn y gwaith neu ddychwelyd i`r gwaith
Dysgwch fwy am fudd-daliadau a gwasanaethau penodol
- Os ydych yn rhiant unigol ac am symud oddi ar fudd-daliadau ac i mewn i waith, neu dim ond eisiau help i ddod o hyd i waith:
ewch i’r Fargen Newydd ar gyfer Rhieni Unigol (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Fargen Newydd). - Os ydych yn derbyn budd-dal anabledd neu fudd-dal sy`n gysylltiedig ag iechyd:
ewch i`r Fargen Newydd ar gyfer Pobl Anabl (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Fargen Newydd). - Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor a bod gennych gynnig swydd neu gyfweliad, efallai y gall Mynediad at Waith gynnig cymorth ymarferol i oresgyn rhwystrau sy’n gysylltiedig â gwaith:
ewch i Fynediad at Waith (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov). - Os ydych yn derbyn cynhaliaeth plant ac mae`ch Lwfans Ceisio Gwaith sy`n seiliedig ar incwm neu`ch Cymhorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd gwaith:
ewch i Bonws Cynhaliaeth Plant (Bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov). - Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Treth Cyngor a bod eich Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu’ch Cymhorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd gwaith:
ewch i gael Budd-dal y Dreth Gyngor am Gyfnod Estynedig (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov) - Os ydych wedi bod yn cael Budd-dal Tai a bod eich Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar incwm neu’ch Cymhorthdal Incwm yn dod i ben oherwydd gwaith:
- ewch i gael Budd-dal Tai am Gyfnod Estynedig (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov)
- Efallai y gallwch gael Budd-dal Tai neu Dreth Cyngor tra rydych mewn gwaith:
gwirio Budd-dal Tai (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov)
gwirio Budd-dal Treth Cyngor (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan Directgov) - Os ydych wedi bod yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith ers dros 2 flynedd ac os ydych yn dechrau mewn swydd newydd:
ewch i Grant Swydd (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith). - Os hoffech roi cynnig ar swydd gan weithio 16 awr neu fwy bob wythnos:
ewch i Gwaith ar Brawf (bydd y cyswllt hwn yn mynd â chi i wefan y Ganolfan Byd Gwaith). - Os ydych chi, neu`ch partner os oes un gennych, yn gweithio ond eich bod ar incwm isel, mae`n bosibl y gallwch dderbyn Credyd Treth Gwaith. Am wybodaeth, ewch i:
wefan Cyllid a Thollau EM.
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.