Gwefannau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Yn ogystal â’r wefan hon, mae DWP yn rheoli gwefannau eraill sy’n delio â materion penodol. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys cyngor diduedd ar bensiynau a gwybodaeth am sut mae DWP yn mynd i’r afael â thwyll.
- www.agepositive.gov.uk Ymgyrch Age Positive y Llywodraeth i fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran ac i hyrwyddo amrywiaeth oedran yn y gweithle.
- www.bfi.gov.uk Cysywllt yw hwn i wefan yr Arolygiaeth Twyll Budd-daliadau (BFI). Daeth y BFI i ben ar 1 Ebrill 2008 ac mae’r wefan hon yn esbonio pwy y dylech gysylltu â hwy yn awr. Mae hefyd yn rhoi mynediad i archif o adroddiadau BFI.
- www.esf.gov.uk Mae’r wefan hon ar gyfer Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yn amlinellu datblygiadau rhaglenni’r ESF wedi 2000.
- www.hse.gov.uk Swyddogaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yw diogelu pobl rhag risgiau i iechyd a diogelwch sy’n deillio o weithgareddau gwaith.
- www.imagesofdisability.gov.uk Menter gan y Llywodraeth yw Delweddau Anabledd, i gynnwys delweddau o bobl anabl mewn hysbysebion.
- www.canolfanbydgwaith.gov.uk Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig help i ddod o hyd i waith ac yn talu budd-daliadau i bobl o oedran gweithio.
- www.ygwasanaethpensiwn.gov.uk Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn cynnig help a chyngor i bensiynwyr heddiw, neu i’r rhai sy’n cynllunio ar gyfer eu hymddeoliad.
Gwefannau eraill
Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.