Cyrff cyhoeddus a noddir gan DWP
Mae’r Adran yn noddi ystod eang o gyrff i gyflawni ei hamcanion. Mae’r rhain yn cynnwys Cyrff Cyhoeddus Anadrannol gweithredol, ymgynghorol a thribiwnlys, Corfforaethau Cyhoeddus, yn ogystal â chyrff eraill hyd braich a thymor byr. Gellir mynd at fanylion y cyrff hyn a’u cylchoedd gorchwyl drwy’r cysylltiadau isod.
Cynllun Penodiadau Blynyddol
Argymhellodd 10fed adroddiad y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus y dylai adrannau lunio Cynllun Penodiadau Blynyddol a’i fabwysiadu yn brif ddogfen strategol ar gyfer pob adran, er mwyn gosod polisi ac arfer sy’n berthnasol i benodi cadeiryddion ac aelodau o fyrddau yn gyhoeddus i’r cyrff cyhoeddus y maent yn eu noddi.
Darllenwch y Gynllun Penodiadau Blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau 2008 (161KB)
cyfredol. Am ragor o wybodaeth ac at ddibenion cyfeirio’n unig, gallwch hefyd ddarllen Gynllun Penodiadau Blynyddol yr Adran Gwaith a Phensiynau 2007 (210KB) ![]()
Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae cyfeirlyfr Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi braslun cynhwysfawr o’r cyrff cyhoeddus a enwebwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Darllenwch gyfeirlyfr presennol Cyrff
Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau 2008 (268KB)
.
Am wybodaeth a chyfeiriad yn unig, gallwch hefyd ddarllen cyfeirlyfr Cyrff Cyhoeddus yr Adran Gwaith a Phensiynau 2007 (386KB)
. Mae cyfeirlyfrau cyn-2007 ar wefan y Gwasanaeth Sifil .
Cyrff Cyhoeddus Anadrannol (NDPB)
- Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant
- Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyflogaeth Pobl Anabl
- Bwrdd Ymgynghorol Lwfans Byw i’r Anabl
- Comisiwn Hawliau Anabledd
- Cydraddoleb 2025
- Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Cyngor Ymgynghorol ar Anafiadau Diwydiannol
- Cronfeydd Byw Annibynnol
- Panel Cyflogaeth Cenedlaethol
- Swyddfa’r Ombwdsmon Pensiynau
- Bwrdd Digolledu Pensiynau
- Cronfa Diogelu Pensiynau
- Ombwdsmon y Gronfa Diogelu Pensiwn
- Ombwdsmon Pensiynau
- Y Rheoleiddiwr Pensiynau
- Remploy Ltd
- Pwyllgor Ymgynghorol ar Nawdd Cymdeithasol (SSAC)
- Y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau
- Y Rheolydd Pensiynau
Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant
Mae’r Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant yn gyfrifol am y system gynhaliaeth plant ym Mhrydain Fawr. Ei brif nod yw gwneud y gorau o’r nifer o drefniadau cynhaliaeth plant effeithiol ar gyfer plant sy’n byw ar wahân o un neu’r ddau riant. Gall rhieni wneud trefniadau yn breifat neu drwy gynllun statudol.
Mae’r comisiwn yn gyfrifol am y cynllun cynhaliaeth statudol (a weithredwyd ar hyn o bryd gan yr Asiantaeth Cynnal Plant) ac Opsiynau Cynhaliaeth Plant sy’n cynnig gwybodaeth ddiduedd am ddim ac sy’n cefnogi i alluogi rhieni nodi a gosod y gynhaliaeth fwyaf addas i’w hamgylchiadau.
- Comisiwn Trefnu a Gorfodi Cynhaliaeth Plant - gwefan
- Opsiynau Cynhaliaeth Plant - gwefan
- Yr Asiantaeth Cynnal Plant - gwefan
Pwyllgor Ymgynghorol ar Gyflogaeth Pobl Anabl (DEAC)
Cylch gorchwyl y DEAC yw cynnig cyngor strategol i Weinidogion a swyddogion ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth ddod o hyd i waith a`i gadw; cyflwyno argymhellion ar y gefnogaeth y mae ei hangen i ddod dros rwystrau o’r fath; a chynnig cyngor cyfrinachol am effeithiolrwydd polisïau’r farchnad lafur.
Bwrdd Ymgynghorol Lwfans Byw i’r Anabl
Cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a meddygon gwasanaethau meddygol ar faterion sy’n ymwneud â’r Lwfans Byw i’r Anabl a’r Lwfans Gweini.
Comisiwn Hawliau Anabledd
Ar 1 Hydref 2007, cyfunodd y Comisiwn Hawliau Anabledd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Cydraddoleb 2025
Mae Cydraddoldeb 2025 yn gorff cynghori newydd i helpu’r Llywodraeth i ddeall anghenion a dymuniadau pobl anabl wrth ddatblygu polisïau a chynllunio cyflenwi gwasanaeth.
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn gyfrifol am reoli bron i bob risg i iechyd a dioglech sy’n deillio o weithgareddau byd gwaith ym Mhrydain. Cynlluniwyd strategaeth HSE i hyrwyddo ei weledigaeth o ran iechyd a diogelwch fel conglfaen cymdeithas waraidd a, chyda hynny, cyflawni cofnodion iechyd a diogelwch yn y gweithle sy’n arwain y byd. Cenhadaeth y HSE, drwy weithio gydag Awdurdodau Lleol, yw amddiffyn iechyd a diogelwch pobl drwy sicrhau bod risgiau mewn gweithleoedd newidiol yn cael eu rheoli’n gywir.
Cronfeydd Byw yn Annibynnol
Darparu cymorth ariannol o dan delerau gweithredoedd yr Ymddiriedolaeth mewn ffordd effeithlon a chost effeithiol sy’n parchu ac sy’n cefnogi gofynion person anabl ar gyfer gofal personol a chymorth cartref sy’n galluogi iddo fwy yn annibynnol.
Cyngor Ymgynhori ar Anafiadau Diwydiannol
Cynghori’r Ysgrifennydd Gwladol ar: dosbarthiad afiechydon diwydiannol, rheoliadau o dan y Ddeddf Gweinyddu Nawdd Cymdeithasol 1992 a’r Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau 1992, a’r Cynllun Budd-dal Anafiadau Diwydiannol ei hunan.
Cronfa Diogelu Pensiynau
Sefydlwyd y Gronfa Diogelu Pensiwn i dalu iawndal i aelodau o gynlluniau pensiwn cymwys â buddion wedi’u diffinio, pan fydd digwyddiad ansolfedd cymwys mewn perthynas â’r cyflogwr lle nad oes asedion digonol yn y cynllun pensiwn i gwmpasu lefelau iawndal y Gronfa Diogelu Pensiwn.
Ombwdsmon y Gronfa Diogelu Pensiwn
Ymchwilio a phenderfynu ar gwynion am y ffordd yr ymdriniwyd ag achosion gan Fwrdd y Gronfa Diogelu Pensiwn.
Ombwdsmon Pensiynau
Ymchwilio a phenderfynu ar gwynion ac anghydfodau sy’n ymwneud â chynlluniau pensiwn personol a galwedigaethol. Mae’r Ombwdsmon yn gwbl annibynnol ac yn gweithredu fel dyfarnwr diduedd.
Remploy Ltd
Rhedir y corff hwn fel cwmni preifat a’i gylch gwaith yw ehangu ar y cyfleoedd ar gyfer pobl anabl mewn cyflogaeth gynaliadwy yn Remploy a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.
Y Pwyllgor Ymgynghori ar Nawdd Cymdeithasol (SSAC)
Yn cynghori ar faterion Nawdd Cymdeithasol yn gyffredinol; gall adrodd ar reoliadau a gyfeiriwyd gan yr Ysgrifennydd Dros Waith a Phensiynau neu Adran Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am Nawdd Cymdeithasol.
Y Gwasanaeth Cynghori Pensiynau
Darparu gwasanaeth annibynnol o safon uchel am ddim i aelodau’r cyhoedd sydd naill ai ag ymholiad cyffredinol neu benodol neu gwyn ynglyn â phensiwn.
Y Rheolydd Pensiynau
Mae’r Ddeddf Pensiynau 2004 yn rhoi set o amcanion penodol i’r Rheolydd Pensiynau:
- ddiogelu budd-daliadau pobl sydd â chynlluniau pensiwn sy’n seiliedig ar waith;
- hyrwyddo gweinyddiaeth dda o ran cynlluniau pensiwn sy’n seiliedig ar waith;
- lleihau’r risg o sefyllfaoedd a allai arwain at geisiadau am iawndal gan y Gronfa Diogelu Pensiynau.