Canolfan adnoddau

Llawn Bywyd

Full of life

Mae pobl yn byw’n hirach. Erbyn 2020, bydd hanner poblogaeth y DU yn 50 oed a throsodd. Daw hyn newidiadau sylfaenol i natur cymdeithas ac mae’r Llywodraeth am sicrhau y byddwn yn addasu’n llwyddiannus i’r newidiadau hyn.

Sialens hirdymor yw hwn a bydd angen cymorth pawb arnom.

O dan y faner Llawn Bywyd, mae’r Llywodraeth a grwpiau cefnogol eraill yn ymgymryd â rhaglen eang o weithgareddau i godi proffil y materion ynghylch pobl hyn a’n cymdeithas sy’n heneiddio. Mae Diwrnod Pobl Hyn y DU wedi bod yn ganolbwynt allweddol ar gyfer 2008.

Diwrnod Pobl Hyn yn y Deyrnas Unedig 2008

Cynhaliwyd Diwrnod Pobl Hyn y DU ar 1 Hydref 2008. Prif nodau’r diwrnod oedd:

Cymerwch ran

Roedd dathlu Diwrnod Pobl Hyn y DU yn gyfle mawr i ddod â’ch cymuned at ei gilydd ac adeiladu perthnasau newydd gyda phobl o bob oedran. Bydd digwyddiadau ledled y wlad ac rydym yn eich annog i gymryd rhan.

I ddechrau, datblygom y Pecyn Gwybodaeth Llawn Syniadau sy’n cynnwys dewis o syniadau am ddigwyddiadau, a seiliwyd ar thema eleni o ddod â chenedlaethau at ei gilydd i hybu gwell dealltwriaeth a pharch. Hefyd, mae llu o adnoddau ychwanegol a ddatblygwyd i helpu i ddathlu bywydau pobl hyn ac ymestyn ar draws y cenedlaethau i annog pobl ifanc a hyn i fyw a dysgu gyda'i gilydd.

Cynlluniwyd y rhain i helpu i gynllunio digwyddiadau o’r dechrau i’r diwedd!

Defnyddiwch hunaniaeth weledol Llawn Bywyd

Mae’r adnoddau gweledol Llawn Bywyd ar gael ar-lein. Gallwch ddefnyddio Llawn Bywyd yn eich gohebiaeth eich hun.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r adnoddau gweledol fel rhan o’ch gohebiaeth eich hun ynglyn â Diwrnod Pobl Hyn y DU.

Rhagor o wybodaeth

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.