Polisi preifatrwydd

Gwybodaeth amdanoch chi

Sut byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu gwybodaeth at ddibenion delio â nawdd cymdeithasol, cynhaliaeth plant, niwed trwy frechiad, cyflogaeth a hyfforddiant, polisi pensiynau preifat, a chynllunio ar gyfer ymddeol. Mae’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu amdanoch yn dibynnu ar y rheswm dros eich busnes gyda ni, ond gallwn ddefnyddio’r wybodaeth at unrhyw un o’r dibenion hyn.

Gallwn wirio gwybodaeth amdanoch chi gyda gwybodaeth arall sydd gennym. Gallwn gael gwybodaeth amdanoch oddi wrth bobl eraill a rhai sefydliadau eraill. Gallwn roi gwybodaeth i rai sefydliadau eraill, pan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny, er mwyn:

Ymhlith y sefydliadau eraill hyn y mae adrannau eraill y llywodraeth, awdurdodau lleol a chyrff yn y sector preifat fel banciau a sefydliadau a allai fenthyg arian i chi. Ni fyddwn yn rhoi gwybodaeth amdanoch chi i unrhyw un y tu allan i’n hadran oni bai bod y gyfraith yn caniatáu hynny.

Y Ddeddf Diogelu Data

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw`r Rheolydd Data at ddibenion y Ddeddf Diogelu Data.

Nid yw’n gwefan yn galluogi’n hymwelwyr i gyfathrebu ag ymwelwyr eraill nac iddynt bostio gwybodaeth i eraill gael mynediad ati.

Os hoffech ddysgu mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, neu am y modd y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth, ewch i DWP a'ch gwybodaeth bersonol (48.1KB)PDF.

Cwcis

O bryd i’w gilydd, bydd yr Adran yn hysbysebu ar-lein. I fesur effeithiolrwydd yr hysbysebu, byddwn yn olrhain ac yn storio ymatebion iddo o bryd i’w gilydd, gan ddefnyddio cwcis. Nid yw hyn yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i ni amdanoch chi a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i weld sut mae’r defnyddwyr yn ymateb i’r hysbysebu’n gyffredinol yn unig.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.