Diwygio Lles

Budd-daliadau analluogrwydd

Mae'r Papur Gwyrdd: Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb, cyhoeddi 21 Gorffennaf 2008, yn amlinellu'r camau nesaf ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a diwygiadau budd-daliadau analluogrwydd. Mae hyn yn cynwys cynlluniau i symud cwsmeriaid Budd-dal Analluogrwydd presennol i'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 22 Hydref 2008 a bydd y canlyniadau yn cael eu cynnwys mewn Mesur yn sesiwn nesaf y senedd.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

O 27 Hydref 2008, cafodd y Budd-dal Analluogrwydd a Chymhorthdal Incwm a hawlir ar sail analluogrwydd ar gyfer cwsmeriaid newydd eu disodli gan y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd y system newydd yn ystyried yr hyn y mae unigolyn yn gallu ei wneud, a pha help a chymorth sydd ei angen arnynt i reoli eu cyflwr a dychwelyd i weithio.

Rhwng 2010 a 2013 bwriedir cyflwyno hawlwyr presennol i mewn i'r system newydd. Bydd budd-daliadau presennol yn parhau i gael eu talu hyd y pwynt hwnnw.

Asesiad Gallu i Weithio

Cyflwynwyd prawf newydd, yr Asesiad Gallu i Weithio, ym mis Hydref 2008 ar gyfer ceisiadau am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac mae’n gymwys i’r holl bobl hynny sy’n gwneud cais am y lwfans. Bydd yn asesu'r hyn y gall unigolyn ei wneud - yn hytrach na’r hyn na allant ei wneud. Bydd yr asesiad yn edrych ar allu corfforol a meddyliol pobl, yn cynnwys cyflyrau fel anableddau dysgu a chyflyrau tebyg.

Yn dilyn yr asesiad hwn bydd y mwyafrif o unigolion yn cael cymorth a chyngor cyflogaeth er mwyn eu galluogi i ddychwelyd i'r gwaith lle bo'n bosibl.

Bydd pobl sydd â chyflwr sy'n achosi cyfyngiad difrifol iawn o'u gallu, na allant gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â gwaith yn cael cyfradd uwch o fudd-dal. Byddant yn dal i allu gwirfoddoli i gael cymorth a chyngor cyflogaeth os ydynt yn dymuno.

O 2010, bydd yr Asesiad Gallu i Weithio newydd, cywirach hwn yn cychwyn cael ei gymhwyso i gwsmeriaid presennol budd-daliadau analluogrwydd.

Mae'r mesur hwn yn rhan o Deddf Diwygio Lles 2007.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl ar fudd-daliadau analluogrwydd yn Llwybrau at Waith.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.