Diwygio Lles

Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb

Neb yn cael ei anwybyddu –
astudiaethau achos

Roedd y Papur Gwyrdd “Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb” yn ymgynghoriad ystod eang ar ddyfodol lles. Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi cynlluniau ar gyfer gwella cymorth a chymhellion gwaith er mwyn creu system sy'n gwobrwyo cyfrifoldeb ac sy’n cynnig mwy o ddewis a rheolaeth dros y cymorth a ddarperir. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 22 Hydref 2008. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd gyda’r gweithgaredd ymgynghori.

Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a Phapur Gwyn y Llywodraeth yn ymddangos ar y wefan hon.

Darllenwch y Papur Gwyrdd

Crynodeb Cymraeg

PDF (Saesneg)

Adran wrth adran - PDF (Saesneg)

Print bras (Saesneg)

Fersiwn hawdd ei ddarllen (Saesneg)

Cwestiynau ymgynghori (Saesneg)

Quick Read (Saesneg)

Mae ‘Quick Read’ yn grynodeb byr o’r Papur Gwyrdd.

Mae’r fersiwn argraffedig yn cynnwys ffurflen ymateb RADBOST i’w gwneud yn haws i bobl anfon eu sylwadau am y cynigion polisi. Os ydych yn cynnal digwyddiad ymgynghori, gallwch archebu copïau drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.

Asesiad o effaith (Saesneg)

Astudiaethau Achos

Gwyliwch dair ffilm fer sy'n archwilio'r camau y mae rhai o'n cwsmeriaid wedi eu cymryd er mwyn cael gwaith ar ôl cyfnod hir o ddiweithdra. Drwy gymorth parhaus DWP maent yn amlygu'r heriau y mae pob unigolyn wedi eu hwynebu a'u goresgyn er mwyn dod o hyd i swydd sy'n rhoi boddhad iddynt.

Mwy o gymorth, disgwyliadau uwch

Mae’r Llywodraeth yn credu y dylai dinasyddion fodloni rhai amodau yn gyfnewid am gymorth y wladwriaeth ac y bydd hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i waith a dianc oddi wrth dlodi. Gelwir hyn yn amodoldeb.

Sut i ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Mae'r cyfnod ymgynghori'n dechrau ar 21 Gorffennaf 2008 ac yn para tan 22 Hydref 2008. Sicrhewch fod eich ymateb yn ein cyrraedd erbyn y dyddiad hwnnw.

Gallwch ymateb ar-lein drwy’r post, ar e-bost, ffacs fel a ganlyn:

Ar-lein: Llenwch y ffurflen ateb ar-lein

Post: FREEPOST RRYL - AXHG - LSTA, Department for Work and Pensions, Welfare Reform Green Paper Team, Room 249, Level 2, The Adelphi, 1-11 John Adam Street, London, WC2N 6HT
E-bost: welfare.reform@dwp.gsi.gov.uk
Ffacs: 020 7712 2458
Ffôn: 020 7712 2316

Ymgynghoriad – cymerwch ran

Bydd manylion y digwyddiadau ymgynghori ar gael yma ar y wefan cyn gynted ag y byddant ar gael. Os dymunwch gael gwybodaeth pan fydd ar gael, anfonwch neges e-bost atom yn welfare.reform@dwp.gsi.gov.uk

Pecyn ymgynghori

Rydym yn croesawu eich mewnbwn i'r Papur Gwyrdd hwn ac i hwyluso eich gweithgaredd ymgynghori rydym wedi cynhyrchu Pecyn Ymgynghori. Gall gweithgaredd gynnwys ychwanegu gwybodaeth at eich gwefan neu gylchlythr dros e-bost, trefnu digwyddiad i drafod yr ardaloedd arfaethedig neu arddangos y poster.

Copïau o'r ymgynghoriad

Gallwch archebu copïau o'r ymgynghoriad gan ddefnyddio'r manylion Sut i ymateb uchod neu dros y ffôn.

Ffôn: 020 7712 2316
Ffôn testun: 020 7962 8380

Bydd fformatau amgen yn dilyn yn fuan. Cysylltwch â ni os hoffech archebu copïau:

Rhagor o wybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am y cod ymarfer rydym yn ei ddilyn ac eglurhad o'r ffordd rydym yn delio ag ymatebion ar ein tudalen Ynglyn ag ymgynghoriadau DWP.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.