Diwygio Lles

Rhieni unigol

Mae Neb yn cael ei anwybyddu: diwygio lles er mwyn gwobrwyo cyfrifoldeb (a gyhoeddwyd ar 21 Gorffennaf 2008) yn cynnwys cynigion newydd i gefnogi mwy o rieni unigol sydd â phlant iau i mewn i gyflogaeth fel bod paratoi am waith yn dod yn gynnydd naturiol, yn hytrach na cham sydyn ymlaen:

Goblygiadau newydd ar gyfer rhieni unigol sydd â phlant hyn

Bydd y cynigion hyn yn cefnogi’r goblygiadau newydd ar gyfer rhieni unigol sydd â phlant hyn fel yr amlinellir yn Yn barod am waith: cyflogaeth lawn yn ein cenhedlaeth (a gyhoeddwyd ar 13 Rhagfyr 2007). Yn amodol ar gymeradwyaeth Seneddol, bydd y cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhieni unigol hynny sy’n gallu gweithio wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith os ydynt yn hawlio Cymhorthdal Incwm ar hyn o bryd yn seiliedig ar y ffaith eu bod yn rhiant unigol yn unig pan fydd eu plentyn ieuengaf yn:

Dim ond i rieni unigol sy'n gallu gweithio y bydd y newidiadau hyn yn berthnasol. Bydd rhieni unigol sydd â rhesymau eraill hefyd dros hawlio Cymhorthdal Incwm yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am Gymhorthdal Incwm neu fudd-daliadau priodol eraill, fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Er enghraifft, os oes ganddynt blentyn y mae canol y gyfradd o elfen gofal Lwfans Byw i'r Anabl yn daladwy iddynt, neu os ydynt yn hawlio Lwfans Gofalwr, neu'n maethu.

Cymorth cyn-gyflogaeth a chymorth mewn gwaith

Mae'r newidiadau arfaethedig yn cynnwys cymorth cyn-gyflogaeth a chymorth mewn gwaith wedi'u hanelu at wneud y broses o drosglwyddo o fod ar fudd-daliadau i waith yn haws.

O fis Gorffennaf 2008

O fis Hydref 2008

O fis Tachwedd 2008

Gofal plant

Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr sicrhau gofal plant digonol i ddiwallu anghenion rhieni unigol o fis Ebrill 2008. Bydd asesiadau awdurdod lleol a gynhaliwyd yn 2008 yn nodi'r galw am wahanol fathau o ofal plant gan rieni unigol, yn cynnwys y rhai sy'n addysgu eu plant gartref.

Gweithio hyblyg

Ar 26 Awst 2008 cyhoeddodd yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio (BERR) ymgynghoriad ar sut i ymestyn yr hawl i wneud cais ar gyfer gweithio hyblyg i rieni sydd â phlant 16 oed ac iau. Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 18 Tachwedd 2008.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.