Amdanom Ni

Gweithio i DWP

Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw adran fwyaf y Llywodraeth. Mae dros 100,000 o bobl ar hyd a lled y wlad yn gweithio i ni.

Rydym yn gweithredu drwy lawer o wahanol fusnesau i gyflwyno polisi’r Llywodraeth o hyrwyddo cyfle ac annibyniaeth i bawb drwy waith, lle bo’n briodol, neu gefnogaeth i’r rhai nad ydynt yn gallu gweithio. Rydym yn helpu pobl i ddod o hyd i waith ac yn helpu cyflogwyr i lenwi swyddi gwag; rydym yn gwneud taliadau i geiswyr gwaith, pensiynwyr, pobl anabl, rhieni a gofalwyr. Bydd y rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn dod i gysylltiad â ni rhywbryd yn eu bywydau.

Mae cwmpas ein gwaith yn golygu y gallwn gynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer eich gyrfa.

Rydym yn falch o’n polisïau ar amrywiaeth a chydraddoldeb. Mae DWP yn ddefnyddiwr y Symbol Anabledd, yn gweithredu’r Cynllun Cyfweliad Sicr, ac rydym yn Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEP).

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.