Amdanom Ni

Partneriaethau Cyflogaeth Lleol (LEP)

Mae Partneriaethau Cyflogaeth Lleol yn rhaglen y Llywodraeth sy’n anelu at wella rhagolygon swyddi ar gyfer pobl drwy eu helpu ennill profiad gwaith.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cymryd rhan mewn LEP fel cyflogwr. Rydym yn cynnig cyflogaeth contract cychwynnol am 51 wythnos i cleientiaid o bob grwp LEP gyda’r opsiwn i’w ehangu at gyfanswm o 18 mis.

Yn ystod yr apwyntiad, mae gan bob cyflogai LEP yr un termau ac amodau ag unrhyw gyflogai arall.

Pwrpas LEP yr Adran Gwaith a Phensiynau yw sicrhau y bydd cyflogeion LEP yn datblygu sgiliau i’r lefel lle y gallant wneud cais am swydd barhaol gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau neu gyda chyflogwr allanol arall.

Mae'r wybodaeth ar y wefan hon yn Gymraeg. Fodd bynnag, gall cysylltiadau i wefannau allanol eich arwain at wybodaeth yn Saesneg.